Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 cwrs CPD byr hwn wedi鈥檌 ddatblygu gan Brifysgol Bangor ac fe鈥檌 cyflwynir ar blatfform ein partner, StudyPRN, sy鈥檔 rheoli鈥檙 prosesau cofrestru a thalu hefyd.
Mae'r cwrs byr hwn yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i lywio cymhlethdodau ymddygiad dynol er mwyn gwella diogelwch ac effeithiolrwydd. Byddwn yn archwilio ffactorau dynol 鈥 sut mae pobl yn rhyngweithio 芒'u hamgylchedd gwaith 鈥 a'u heffaith ar ofal cleifion. Mae'r egwyddorion y byddwch yn eu dysgu (a ddatblygwyd yn wreiddiol mewn awyrenneg) bellach yn hanfodol ar draws llawer o sectorau. Byddwn hefyd yn archwilio cyfathrebu, pendantrwydd, a datrys gwrthdaro, gan ddangos sut mae'r sgiliau hyn yn gwella eich llesiant personol a diogelwch cleifion. Yn olaf, byddwch yn adolygu eich sgiliau pendantrwydd eich hun, gan fagu hyder i ymdopi 芒 sefyllfaoedd heriol. Mae'r cwrs hwn yn eich arfogi 芒'r offer ymarferol i greu amgylchedd gwaith mwy diogel a chynhyrchiol.
Deilliannau Dysgu
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn gallu:
- Diffinio ffactorau dynol ac egluro eu dylanwad ar ymarfer proffesiynol a diogelwch cleifion o fewn lleoliad gofal iechyd.
- Disgrifio gwreiddiau a chymhwysiad egwyddorion ffactorau dynol, gan ddangos eu perthnasedd y tu hwnt i'r sector gofal iechyd.
- Dadansoddi r么l cyfathrebu effeithiol, gan gynnwys pendantrwydd a rheoli gwrthdaro, wrth wella llesiant personol, diogelwch cleifion, a dynameg t卯m.
- Asesu eu lefelau pendantrwydd personol a nodi strategaethau i wella rhyngweithiadau proffesiynol.
Manteision y cwrs
Mae'r cwrs byr hwn yn cynnig mewnwelediad i gyfranogwyr ar y ffactorau seicolegol ac amgylcheddol sy'n dylanwadu ar ein gallu i wneud penderfyniadau a pherfformiad mewn lleoliadau gofal iechyd. Drwy ddeall ffactorau dynol, bydd cyfranogwyr mewn gwell sefyllfa i nodi risgiau, gwella cyfathrebu, ac ymateb yn hyderus mewn sefyllfaoedd dan bwysau uchel. Bydd yr offer ymarferol a'r ymarferion adfyfyriol a ddarperir yn gwella diogelwch cleifion a dynameg t卯m yn ogystal 芒 chefnogi gwytnwch a thwf proffesiynol y cyfranogwyr eu hunain.
Cost y Cwrs
拢96 (pris yn ddilys ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26).
Gwneud Cais
Gallwch wneud cais trwy glicio ar y ddolen isod, a fydd yn eich tywys i wefan ein partner lle gallwch gofrestru, talu a chael mynediad at y cwrs.