Diwrnod Agored ar y Campws
Bydd y dyddiadau a'r ffurflen gofrestru ar gyfer Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol, a gynhelir yn yr Haf, ar gael yn fuan.
Beth i'w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored
- cewch fwy o fanylion am eich pwnc
- gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
- cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
- gweld y llety i fyfyrwyr
- cewch flas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
- mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
- ymgyfarwyddo ag adeiladau鈥檙 Brifysgol a dinas Bangor.
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
Os nad ydych yn gallu dod i un o'r Dyddiau Agored, ebostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk i drefnu ymweliad unigol i'r Brifysgol ar ddyddiad arall.
Dal yn ystyried eich opsiynau ar gyfer Medi 2026? Dewch i'r Diwrnod Agored Bach yn Ionawr 2026
Os ydych chi dal yn ansicr am eich cynlluniau ar gyfer mis Medi nesaf, ymunwch 芒 ni yn ein Diwrnod Agored Bach ar ddydd Gwener, 23 Ionawr 2026. Mae'n gyfle perffaith i archwilio eich opsiynau a gweld bywyd prifysgol ar waith.
Mwy o wybodaeth am y Diwrnod Agored Bach
Wedi gwneud cais ar gyfer Medi 2026? Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno eich cais ar gyfer cwrs sy'n dechrau ym Medi 2026, cadwch lygad am eich gwahoddiad i Ddiwrnod i Ymgeiswyr, a fydd yn cael ei anfon trwy e-bost neu'r post.
Pam Dewis Prifysgol Bangor?
Yn ogystal 芒鈥檙 addysgu rhagorol a鈥檙 adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy鈥檔 cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal 芒 hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig
[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!
[0:07] Welcome to 91快活林 Open Day!
[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.
[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.
[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?