Mae'r cyfarfod anffurfiol hwn, dan arweiniad myfyrwyr, yn gyfle hamddenol i gysylltu ag eraill ar y rhaglenni Sylfaen, Porth i Feddygaeth, a Pharatoi Fferylliaeth cyn i'r addysgu ddechrau. Mae'n gyfle i:
- Dechrau meithrin cyfeillgarwch gyda'r bobl y byddwch chi'n astudio ochr yn ochr 芒 nhw drwy gydol y flwyddyn.
- Sgwrsio am Wythnos Groeso, ymgartrefu, a'ch argraffiadau cyntaf o fywyd myfyrwyr.
- Dod o hyd i bartneriaid astudio posibl a dechrau adeiladu rhwydwaith cefnogol.
- Rhannu profiadau ac awgrymiadau wrth i chi baratoi i ddechrau eich cwrs gyda'ch gilydd.
Galwch heibio am gyn lleied neu gyhyd ag y dymunwch - y ffocws yn syml yw cwrdd 芒'ch gilydd a dechrau teimlo'n rhan o'ch carfan newydd.
Argymhellir mynychu, ond nid yw'n orfodol. Sylwch na fydd staff na Thywyswyr Cyfoedion yn bresennol, digwyddiad dan arweiniad myfyrwyr yw hwn.