Bwriad y gynhadledd hon yw archwilio’r datblygiadau diwylliannol oedd yn gysylltiedig â Deiniol a’i Gadeirlan ym Mangor, yn y flwyddyn y mae Cadeirlan Bangor yn dathlu 1500 o flynyddoedd. Fel canolfan diwylliant Gymraeg, roedd sawl bardd ac ysgolor yn gysylltiedig â’r Gadeirlan, a bydd y papurau ar ddechrau’r diwrnod yn edrych ar sawl enghraifft o’r rhain. Gan ddechrau gyda Deiniol ei hun, cawn drosolwg o’r farddoniaeth yn trafod Deiniol a’r darlun o’r sant mewn barddoniaeth. Dilynir hyn gan dri phapur gan feirdd oedd yn gysylltiedig â’r Gadeirlan, a’u gwaith hwy: Dafydd ap Gwilym, bardd pwysicaf Cymru’r oesoedd canol, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yna Edmwnd Prys (1542–1623) a Goronwy Owen (1723–1769), y ddau yn glerigwyr yn ogystal â bod yn feirdd, a’r ddau wedi eu coffau yng Nghapel Mair.
Bydd y prynhawn yn cloi gyda thrafodaeth gyffrous o wydr lliw yn y Gadeirlan a gwydr lliw ledled Cymru sy’n dangos Deiniol, ynghyd â lansiad llyfr ar Ddeiniol mewn Gwydr Lliw.
Dros ginio bydd perfformiadau cerddorol o gyfansoddiadau newydd yn dangos dylanwad y Gadeirlan a’r traddodiad barddol ar gerddoriaeth hefyd.
Mynediad a lluniaeth am ddim, gyda chefnogaeth garedig y Gadeirlan (rhodd awgrymedig: £5)