Ym mis Hydref eleni, bydd dinas Bangor yn cymryd lle canolog mewn dathliad bywiog o'i gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol gyda Gŵyl Hanes Bangor, sy'n coffáu 1,500 o flynyddoedd ers sefydlu un o ddinasoedd hynaf Prydain a dinas hynaf Cymru.
Cynhelir yr ŵyl ddeuddydd yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, Storiel ac Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae’n cynnwys rhaglen gyfoethog o weithdai, trafodaethau, arddangosfeydd rhyngweithiol, a sgyrsiau gwadd, pob un wedi'i gynllunio i ddod â hanes rhyfeddol Bangor yn fyw.
Mae'r digwyddiad yn ystod y dydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i'r cyhoedd, gyda rhaglenni dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg i adlewyrchu gwreiddiau diwylliannol y ddinas.
Prif Sgyrsiau gyda Greg Jenner a Kate Williams
Un uchafbwynt rhaglen gyda'r nos yr ŵyl ar y ddau ddiwrnod fydd dwy brif sgwrs: Bydd Greg Jenner, hanesydd cyhoeddus Prydeinig, awdur llwyddiannus, a darlledwr, yn traddodi “Ask a Historian: “An Evening with Greg Jenner”, yn dod â hanes yn fyw gyda’i hiwmor a’i fewnwelediad nodweddiadol, tra bydd yr hanesydd, y darlledwr, ’r awdur llwyddiannus, yr Athro Kate Williams, yn cyflwyno “Queens, Castles and Welsh Heroines: “Secrets Behind The Castle Walls”, gan ddatgelu straeon a gwaddol pwerus merched nodedig yn hanes Cymru. Mae tocynnau ar werth ar wefan , a thocynnau ar gyfer sesiynau’r ’r o’r gweithdai “Get thy Bearings!” ar gael ar wefan Storiel.
Mae'r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor (gan gynnwys Pontio), Cyngor Dinas Bangor, Storiel ac Eglwys Gadeiriol Bangor, gyda chefnogaeth gan sawl sefydliad lleol allweddol. Mae Gŵyl Hanes Bangor yn fwy na digwyddiad yn unig; mae'n ddathliad o gymuned, hunaniaeth, a'r straeon sydd wedi llunio ein gorffennol ac a fydd yn dylanwadu ar ein dyfodol.
Edrychwch ar fanylion holl ddigwyddiadau’r ŵyl Hanes isod, yn ein hamserlen o ddigwyddiadau ar gyfer y diwrnod.
Dydd Gwener 17.10.2025
6 YH - 7 YH
Mae Greg Jenner yn hanesydd, awdur a darlledydd poblogaidd, ymysg ei weithiau mae rhaglen deledu ‘Horrible Histories’, cyfres llyfrau ‘Totally Chaotic History’ a podcast ‘You’re Dead to Me’.
Ymunwch â Greg wrth iddo roi ei farn ar bob dim sy’n ymwneud â hanes!
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Safonol a Henoed £10
Myfyriwr a Phlentyn £5
Dydd Sadwrn 18.10.2025
Trwy'r dydd
Mwynhewch gweithgareddau, pethau rhyngweithiol a phethau i blant ar stondinau ein partneriaid!
- Canolfan Ddysgu Arforol Bangor
- Sefydliad Confucius
- M-SParc
- Coleg Treftadaeth Bangor
- Menter Iaith Bangor
10am – 4pm
Mwynhewch yr arddangosfeydd e.e. Meddygaeth yng ngogledd Cymru, Ystad Penrhyn a chaethwasiaeth, Pêl droed ym Mangor, addysg ym Mangor, Kate Roberts a Choleg Bangor o dan arweiniad tîm yr Archifdy 10yb – 4yp.
Bydd y Pontifical hefyd i’w weld fel rhan o’r arddangosfa am y Gadeirlan yng nghoridor Siambr y Cyngor.
11am-5pm
Dewch i ymweld a Storiel 11yb-5yp. Fel rhan o’r Wyl.
10am - 3pm
Croeso cynnes i bawb i ymweld â’r Gadeirlan
10 YB
Ymunwch â Dr Gareth Evans-Jones, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, wrth iddo olrhain sut y siapiodd heddychiaeth ym Mangor ein ddoe a’n heddiw.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Croeso gan Yr Arglwydd Dafydd Wigley. Cyflwyniad i’r drafodaeth gan Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd. Panel trafod am hanes a threftadaeth llechi gyda Elin Tomos, Dr Dafydd Gwyn a Dr Dafydd Roberts.
Pontio PL5, lefel 5
Dewch i ddysgu mwy am hanes yr ardal ’r llong-ddrylliadau gyda Dr Michael Roberts, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.
Pontio PL2, lefel 2
Dewch i ddysgu mwy am y Gadeirlan ’r Esgobion gyda Dr Shaun McGuinness, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor. Noddir y sesiwn gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.
Cadeirlan
Man cyfarfod: Derbynfa Pontio ger Ffordd Deiniol (a).
11 YB
Croeso gan Yr Athro William Heath, Pennaeth Ysgol, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor.
Cyflwyniad i waith Tom Parry-Jones (John Brinley Jones, PPM Technology) a ‘W.E. Williams: peiriannwr ac arloeswr hedfan’ (Yr Athro Iestyn Pierce, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor).
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Sesiwn ar hanes a hunaniaeth y gem ym Mangor ’r gogledd. Cadeirir gan Dr Jonathan Ervine, Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith, gyda Beth Jones, ymchwilydd PhD, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor ; Glynne Roberts, cefnogwr a hanesydd pêl droed Bangor; a Mei Emrys, hanesydd pêl droed Cymru (tbc).
Pontio PL2, lelel 2
Man cyfarfod: Derbynfa ger Ffordd y Coleg (b)
11.15 YB
Dewch i ddysgu mwy am hanes y chwareli gyda Dr Leona Huey a Dr Gary Robinson, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor.
Pontio PL5, lelel 5
11.30 YB - 1 YP
Sesiwn 1af
Gweithdai liw a llun i'r teulu syn ymwneud a mapiau Bangor
Dewch i ddysgu mwy am mapiau John Speed o Fangor. Gweithdai yn cyfuno daearyddiaeth gyda celf a chrefft. Hwyl I’r teulu oll, bydd cyfle i greu mapiau a chymharu mapiau Bangor y gorffennol, presennol ’r dyfodol!
Bydd Rhys Lloyd Jones yn cyflwyno gweithdy hwyl gyda Bangor yn ganolig iddo.
Sesiwn bore -
Storiel
12 YP
Dewch i ddysgu mwy am hanes Pont Borth gyda Kerry Evans, UK Highways A55 Ltd; John Cole a Gareth Jones, Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Fenai.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Dewch i ddysgu mwy am yr hanes gyda Gwyn Ellis, Swyddog Addysg, Cyngor Gwynedd.
Pontio PL5, lefel 5
Darlith gan Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Prifysgol Bangor.
Pontio PL2, lefel 2
Man cyfarfod: Derbynfa ger Ffordd y Coleg (c)
1 YP
Dewch i ddysgu mwy am y mynach 9fed ganrif gyd’r Athro Raluca Radulescu, Cyd-gyfarwyddwr Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Dewch i ddysgu mwy am y berthynas rhwng lleoliadau, emosiynau ac ymddygiad gyd’r cerddor ac archaeolegydd Rhys Mwyn.
Pontio PL5, lefel 5
Dewch i ddysgu mwy gyda John Richard Williams, awdur ‘Er Lles Llawer: Meddygon Esgyrn Môn’
Pontio PL2, lefel 2
2 YP
Dewch i ddysgu mwy am yr hanes Iddewig lleol gyd’r Athro Nathan Abrams, Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Dewch i archwilio hanes LHTDC+ Bangor, wrth i Dr Gareth Evans-Jones, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, amlygu’r brwydro ’r llwyddiannau a wnaeth wahaniaeth.
Pontio PL5, lefel 5
Dewch i ddysgu mwy am hanes yr ardal a chymerwch ran yn y dathlu gyda Dr Marian Gwyn a Race Council Cymru.
Pontio PL2, lefel 2
Man cyfarfod: Derbynfa Pontio ger Ffordd Deiniol (a).
2il sesiwn 2yp – 3:30yp
Gweithdai liw a llun i'r teulu syn ymwneud a mapiau Bangor
Dewch i ddysgu mwy am mapiau John Speed o Fangor. Gweithdai yn cyfuno daearyddiaeth gyda celf a chrefft. Hwyl I’r teulu oll, bydd cyfle i greu mapiau a chymharu mapiau Bangor y gorffennol, presennol ’r dyfodol!
Bydd Rhys Lloyd Jones yn cyflwyno gweithdy hwyl gyda Bangor yn ganolig iddo.
Sesiwn prynhawn -
Storiel
3 YP
Dewch i ddysgu mwy am hanes Bangor 1939-45 gyda Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinesig, Cyngor Dinas Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Dewch i ddysgu mwy am hanes yr ardal cyn sefydlu dinas Bangor gyd’r archaeolegydd Dr Erin Lloyd Jones.
Pontio PL5, lefel 5
Ddewch i ddysgu mwy am hanes dyddiau cynnar y Brifysgol gyd’r hanesydd Gari Wyn.
Pontio PL2, lefel 2
Man cyfarfod: Derbynfa ger Ffordd y Coleg (b)
4 YP
Dewch i ddysgu mwy am fywyd Charlotte Price White a Gladys Thoday gyda Dr Dinah Evans, Cydymaith Ymchwil Anrhydeddus, a Shan Robinson, Uwch Gynorthwyydd Casgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Dewch i wrando ar hanes a phrofiadau unigolion sydd wedi cynrychioli etholaethau lleol. Gyd’r Cyng. Medwyn Hughes, Maer Bangor, yn cadeirio, mae’r panel yn cynnwys Sian Gwenllian AS (Plaid Cymru), Aelod y Senedd dros Arfon ers 2016; Robin Millar (Ceidwadwyr), Aelod Seneddol dros Aberconwy 2019-2024; a Claire Hughes AS (Llafur), Aelod Seneddol dros Bangor Aberconwy ers 2024.
Pontio PL5, lefel 5
Man cyfarfod: Derbynfa ger Ffordd y Coleg (c)
6 YH - 7 YH
Yr Athro Kate Williams, sy’n hanesydd, awdur a chyflwynydd teledu, fydd yn cloi'r ŵyl. Ymysg ei gweithiau mae ‘England’s Mistress’, ‘Becoming Queen’ a ‘The Ring and the Crown: A History of Royal Weddings 1066 – 2011’. Ymunwch â Kate am daith hwyliog, diddorol ac ysgogol drwy hanes.
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Safonol a Henoed £10
Myfyriwr a Phlentyn £5
Collaborators
