Y Brifysgol yn cadarnhau ei hymrwymiad i Ganolfan Bedwyr
Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau ei hymrwymiad i Ganolfan Bedwyr, sef canolfan gwasanaethau Cymraeg arloesol y Brifysgol.
Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol yn ailstrwythuro鈥檙 ysgolion academaidd a鈥檙 gwasanaethau proffesiynol ond mae wedi cadarnhau y bydd Canolfan Bedwyr yn parhau i fod yn elfen bwysig o'r strwythur.
Wrth s么n am y pryderon a fynegwyd gan y cyhoedd yn dilyn cyhoeddi'r newyddion am yr ailstrwythuro, dywedodd yr Athro Andrew Edwards, sy鈥檔 Ddirprwy Is-ganghellor: "Rydym yn hynod ffodus ein bod ni鈥檔 gallu manteisio ar yr arbenigedd sydd gennym yng Nghanolfan Bedwyr a thros y blynyddoedd nesaf bydd yr arbenigedd hwnnw鈥檔 parhau i'n cynorthwyo i gyflawni nodau strategaeth iaith Gymraeg y Brifysgol, sydd ar hyn o bryd yn cael ei hadolygu fel rhan o'n gwaith cynllunio strategol.
"Trwy gyfuno swydd Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr 芒 r么l newydd Deon Datblygu'r Gymraeg, rydym yn sicrhau y bydd Canolfan Bedwyr yn rhan greiddiol o weithgareddau addysgu ac ymchwil y Brifysgol ynghyd 芒鈥檌 gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ehangach y tu hwnt i鈥檙 Brifysgol."
Ychwanegodd yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg: "Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o ragoriaeth mewn ymchwil a gwasanaethau sy'n ymwneud 芒'r Gymraeg, ac mewn ymchwil sy'n ymwneud 芒'r cyd-destun dwyieithog y mae'r Gymraeg yn bodoli o鈥檌 fewn, ac mae Canolfan Bedwyr wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r elfennau hynny.
"Rydym yn ehangu cylch gwaith Canolfan Bedwyr i gryfhau ymhellach ein cefnogaeth i'r Gymraeg ym mhob rhan o鈥檙 Brifysgol. Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda Chanolfan Bedwyr yn fy r么l newydd fel Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg yn y Brifysgol."
Ychwanegodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr: "Mae chwarter canrif ers sefydlu Canolfan Bedwyr, a thros y cyfnod hwnnw mae wedi bod ar flaen y gad wrth hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt. Wrth i'r Brifysgol fynd ati i adnewyddu ei strategaeth iaith Gymraeg, edrychwn ymlaen at chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu鈥檙 strategaeth honno".