Mae鈥檙 Gymrodoriaeth, a gyllidir gan un o brif gyrff cyllido ymchwil y Deyrnas Unedig sef y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (Economic Social Research Council / ESRC), yn galluogi Dr Wynne-Jones i gefnogi t卯m Llywodraeth Cymru sy鈥檔 gyfrifol am lunio polisi neilltuol ar gyfer Cymru, yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig o鈥檙 Undeb Ewropeaidd.
Bydd y newid polisi hwn hefyd yn yflawni ymrwymiadau Cymru i fynd i鈥檙 afael ag Argyfwng yr Hinsawdd a galluogi鈥檙 sector amaeth i gyrraedd allyriadau o Net Sero. Golyga hynny weithgareddau fel plannu coed a gwell rheolaeth dros y pridd ar ffermydd er mwyn storio carbon, yn ogystal 芒 defnydd gwell ar adnoddau er mwyn lleihau baich amgylcheddol amaethyddiaeth.
Bydd Dr Wynne-Jones yn gweithio efo Llywodraeth Cymru er mwyn deall sut y gall eu polis茂au sbarduno newidiadau diwylliannol a busnes mewn amaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau cynaladwyedd y diwydiant.
Dywedodd Dr Wynne-Jones:
鈥淢ae鈥檙 cyfle i weithio efo Llywodraeth Cymru ar y dasg allweddol hon mewn cyfnod o newid mawr yn gyffrous. Yn sgil Brexit mae popeth yn newid i鈥檙 sector ffermio. Mae鈥檔 hanfodol bod cynlluniau rheolaeth tir newydd yn cyrraedd y nod o ran yr amgylchedd, ond mae angen eu cynllunio鈥檔 dda i sicrhau eu bod yn gweithio i fusnesau a chymunedau ffermio, neu ni fydd neb yn ennill.
Mae ffermio o dan bwysau mawr ac mae dan y lach yn y wasg oherwydd yr effeithiau amgylcheddol negyddol a all ddeillio o鈥檌 weithgareddau. Ond mae ffermwyr Cymru鈥檔 gwneud yn iawn mewn nifer o ffyrdd, ac mae llawer o botensial i wneud pethau鈥檔 well. Dyna pam mae鈥檔 bwysig gweithio鈥檔 effeithiol gyda鈥檙 diwydiant wrth ddatblygu cynlluniau newydd.
Bydd y Gymrodoriaeth yn gyfle gwych imi roi fy arbenigedd ar waith, a hefyd i rannu鈥檙 cyfoeth o ymchwil yr ydym yn ei gynnal ar sustemau amaethyddol a defnydd tir cynaliadwy yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae鈥檔 rhoi Bangor ar y map i fod ar flaen y gad mewn ymchwil sy鈥檔 cefnogi dyfodol cynaliadwy i鈥檙 dirwedd.鈥
Dywedodd Ann Humble, Pennaeth Dadansoddiad Strategol, Gr诺p Newid HInsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru:
鈥淢ae Llywodraeth Cymru鈥檔 falch i fod yn rhan o鈥檙 fenter newydd gyffrous yma gan ESRC. Bydd yn galluogi Dr Wynne-Jones i fod yn rhan o鈥檔 gwasanaethau tystiolaeth ac ymchwil i鈥檙 Gr诺p Neid Hinsawdd a Materion Gwledig. Mae鈥檙 r么l yn rhoi cyfle i academydd gynnig dirnadaeth fethodolegol ac arbenigol yn syth i鈥檙 timau Polisi sy鈥檔 datblygu polis茂au newydd a chynnig syniadau newydd ac arloesol i wella rhaglenni sy鈥檔 bodoli eisoes.鈥
Dechreuodd y Gymrodoriaeth fis Ionawr 2022 a bydd yn parhau am 18 mis. Mae'n rhedeg fel rhan o raglen beilot Cymrodoriaethau Polisi ESRC.
The fellowship began in January 2022 and will run over the next 18 months. It is running as part of the ESRC Policy Fellowships pilot programme.