Aeth Schumacher (1973) iâr afael â sawl thema yn ei lyfr. Yn gyntaf, peryglon trin yr amgylchedd naturiol fel ffynhonnell incwm yn hytrach na chyfalaf, na ddylid ei wastraffu; yn ail, rhesymau economaidd dros ryfel ac amodau heddwch, sy'n hynod berthnasol ar hyn o bryd o ystyried y gwrthdaro yn WcrĂĄin a Phalestina; yn drydydd, diffyg gweledigaeth wrth ddewis ynni niwclear fel âffynhonnell ynni glânâ ond gyda baich anhysbys gwaredu gwastraff niwclear ar genedlaethau'r dyfodol; ac yn bedwerydd, datblygiad economaidd a rĂ´l âtechnolegau canolraddâ wrth gynhyrchu gwaith da ar gyfer poblogaeth. Mae'r agenda sero net a'r gydnabyddiaeth gynyddol o effeithiau lleol a byd-eang y newid yn yr hinsawdd yn golygu bod llawer o'r hyn a ysgrifennodd Schumacher dros hanner can mlynedd yn Ă´l yn flaenllaw iawn heddiw.
Yma, rydym wedi rhannuâr bygythiadau lleol uniongyrchol y mae hinsawdd syân newid yn eu peri i iechyd y boblogaeth yn dri grĹľp:
- Y bygythiadau hynny syân effeithio ar ein hamgylchedd naturiol (newidiadau mewn ansawdd aer, tymereddau cynyddol, mwy o berygl o danau, llifogydd ac erydu arfordirol).
- Y bygythiadau hynny sy'n effeithio ar ein ffordd o fyw (sicrwydd bwyd a dĹľr, gwarediadau gwastraff, ac amgylcheddau mewnol ein cartrefi).
- Y bygythiadau hynny sy'n effeithio arnom drwy newidiadau biolegol (mynychder clefydau heintus neu fectorau sy'n cario organebau megis mosgitos).
Dawâr bygythiadau hyn o ddadansoddiad diweddar gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (2024). Mae angen iâr blaned ffynnu er mwyn i fodau dynol ffynnu. Mae hyn yn golygu bod angen priddoedd llawn maetholion arnom i dyfu digon o fwyd maethlon. Mae angen digon o ddĹľr ffres arnom i adfywio ein hafonydd a dyfrhaenau ac aer glân iâw anadlu, syân golygu lleihau allyriadauân sylweddol (Raworth, 2017).
Fodd bynnag, y pryder sylfaenol ddylai fod y berthynas rhwng y newid yn yr hinsawdd ar lefel leol a graddiant economaidd-gymdeithasol afiechyd, anabledd a marwolaethau cynamserol. Mae cromlin Marmot, sydd wediâi hen sefydlu, yn dangos y berthynas rhwng y gymdogaeth yr ydym yn byw ynddi aân disgwyliad oes sydd wediâi addasu yn Ă´l ansawdd (gweler Ffigur 1 isod; Marmot, 2020).
Ffigur 1: Disgwyliad oes ar adeg geni yn Ă´l dengraddau amddifadedd ardal a rhyw, Lloegr, 2016â18. Yn seiliedig ar ddata gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, 2020 (Marmot, 2020)

Fersiwn hygyrch o graff Ffigwr 1.
Dengraddau amddifadedd o'r mwyaf i'r lleiaf difreintiedig | Disgwyliad oes dynion | Disgwyliad oes merched |
1 | 73.9 | 78.6 |
2 | 76 | 80.5 |
3 | 77 | 81.5 |
4 | 79 | 82.5 |
5 | 79.9 | 84 |
6 | 80.3 | 84.5 |
7 | 81 | 84.7 |
8 | 81.5 | 84.9 |
9 | 82 | 85.3 |
10 | 83.4 | 86.3 |
Cymru yw un o ranbarthau tlotaf y Deyrnas Unedig. Ar lefel leol, mae gan Gymru rai oâr cymunedau trefol a gwledig tlotaf yn y Deyrnas Unedig. Mae un o bob tri phlentyn syân cael eu magu yng Nghymru yn byw mewn tlodi (Roberts et al., 2023). Mae natur heneiddiol poblogaeth Cymru, yn sgil, yn rhannol, fewnfudwyr sydd wedi ymddeol, yn golygu nad oes digon oâr boblogaeth o oedran gweithio i gynnal y patrwm demograffig hwn.
Canolbwyntiodd Schumacher (1973) ar ansawdd y gwaith sydd gan bobl mewn economi. Ysgrifennodd yn bennaf am wledydd syân datblygu, ond mae ei syniadau'n berthnasol i wledydd datblygedig fel y Deyrnas Unedig. Dadleuodd dros waith lleol o ansawdd da yn hytrach na gwaith neo-drefedigaethol o ansawdd gwael. Maeân anodd gweld cyflogwyr uwchgwmnĂŻau byd-eang, syân ddiweddar wedi ehangu eu busnesau yng Nghymru ac syân cynnig contractau amrywiol neu gontractau dim oriau, fel y math o gyflogwyr a ragwelodd Schumacher. Mae cyflogwyr uwchgwmnĂŻauân dilyn yr un taflwybr ââr Chwyldro Diwydiannol, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gyfalaf a llafur. Mae angen i syniadaeth economaidd roi mwy o sylw iâr straen ecolegol y mae cwmnĂŻau byd-eang mawr yn ei roi ar y blaned, megis newid yn yr hinsawdd, datgoedwigo a diraddiad pridd (Raworth, 2017).
Eto, yng nghyd-destun gwledydd syân datblygu, roedd Schumacher (1973) yn ystyried datblygiad economaidd a llesiant o âsafbwynt pentrefâ, hynny yw, trwy ddull rhanbarthol. Tynnodd Schumacher sylw at y bwlch rhwng anghenion isadeiledd cyflogaeth lleoliadau trefol a threfi a phentrefi. Mae safbwynt pentrefol Schumacher yn tynnu ar ddau ffactor rhyng-gysylltiedig: âdigonolrwyddâ a chynaliadwyedd. Yn groes i dwf parhaus cyfalafol, daw'r lles mwyaf o gael digon i bawb. Dawâr safbwynt hwn oâr syniad nad yw mwy bob amser yn well, ac o hynny, mae athroniaeth âHardd ywâr Pethau Bychainâ yn dod iâr amlwg. Yn fwy diweddar, mae athroniaeth y âddinas 15 munudâ yn tynnu ar y dull hwn o safbwynt pentrefol; cysyniad cynllunio trefol a fathwyd gan Carlos Moreno yn 2016 (Moreno et al., 2021). Maeân egwyddor ysbrydoledig, er nad yw bob amser yn bosibl yng nghefn gwlad Cymru. Er bod peth dadlau yn y cyfryngau, maeâr cysyniad hwn o ddiwallu ein hanghenion dyddiol yn arbennig o berthnasol i Gymru, a gallai ddatrys problem poblogaeth syân heneiddio drwy ddal gafael ar ein cenhedlaeth iau drwy gynnig cyfleoedd cyflogaeth lleol da. Mae twf mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn un ffactor yn y newid hwn drwy roi adnoddau a chyfleoedd gwaith yn Ă´l yn ein cymunedau, gan ysgogi math gwahanol o ffyniant gyda chynaliadwyedd wrth ei wraidd. Wrth gwrs, mae deddfwriaeth berthnasol yn ffactor allweddol i hyn, a bod y pwerau datganoli a roddwyd i Gymru yn 2011 yn cynnwys pwerau deddfu.
Mae Cymru wedi pasio Deddf Llesiant Cenedlaethauâr Dyfodol (Cymru) 2015 (gweler Ffigur 2 isod), syân ei gwneud hiân angenrheidiol i bob polisi a chynllun, yn genedlaethol ac yn lleol, ystyried effeithiauâr camau a gymerir, nawr ar genedlaethauâr dyfodol.
Ffigur 2. Ffeithlun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae'r ffeithlun Olwyn Llesiant a Lles (gweler Ffigur 3 isod; Edwards, 2022), a ddatblygwyd yma yng Nghymru, yn amlyguâr angen am ddull cwrs bywyd o atal afiechydon y gellir eu hosgoi, anabledd a marwolaethau cynamserol. Mae ei gylchoedd yn amlygu pa mor agored yw pob cam o gwrs bywyd i ffactorau sydd mewn perygl oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Mae'r cylch mewnol coch yn tynnu sylw at ddiogelwch bwyd a dĹľr, addysg, gwaith da a chymuned. Mae'r cylch allanol glas yn tynnu sylw at y newid yn yr hinsawdd a thrychinebau naturiol, sydd weithiau'n cael eu hysgogi neu eu dylanwadu gan y newid yn yr hinsawdd, rhyfel a gyfnodau o bandemig
Ffigur 3. Ffeithlun Olwyn Llesiant a Lles (Edwards, 2022)

Mae'r ffeithlun hwn yn adlewyrchu cysyniad sylfaenol "olwyn bywyd". Mae'r cylch consentrig cyntaf yn goch ac yn adlewyrchu ffactorau personol sy'n pennu neu'n cael effaith trwy cwrs bywyd ar lesiant a lles. Y rhain yw: gyrfaoedd a chyflogaeth; pwrpas a chyfraniad; iechyd meddwl; iechyd corfforol; perthynas a chysylltiad cymdeithasol; diogelwch bwyd, dĹľr a ynni, addysg a thwf; hunaniaeth bersonol; sefydlogrwydd ariannol, ac amgylchedd y cartref aâr gwaith. Mae'r ail gylch consentrig yn wyrdd ac yn adlewyrchu ffactorau lleol sy'n pennu neu'n cael effaith ar lesiant a lles trwyâr cwrs bywyd. Y rhain yw: polisi llywodraeth genedlaethol a lleol; mynediad at dai a thrafnidiaeth; mynediad at addysg a chyflogaeth; Y gymdogaeth, yr amgylchedd adeiledig a naturiol; mynediad at leoedd gwyrdd a glas; mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, llythrennedd iechyd a chyfiawnder. Mae'r trydydd cylch consentrig yn las ac yn adlewyrchu ffactorau cenedlaethol a byd-eang sy'n pennu neu'n cael effaith ar lesiant a lles trwy gwrs bywyd. Y rhain yw: newid amgylcheddol a hinsoddol; normau cymdeithasol a diwylliannol; technoleg; globaleiddio; amodau macroeconomaidd; amodau geo-wleidyddol, a rhyfel, terfysgaeth, newyn, pandemig a thrychinebau naturiol.
Mae Ffigur 4 isod yn arbrofol. Yma rydym yn ceisio mapio bygythiadau sy'n gysylltiedig ââr newid yn yr hinsawdd i iechyd ar y diffiniadau traddodiadol sylfaenol, eilaidd a thrydyddol o atal.
Ffigur 4. Triongl Ataliol o Effeithiauâr Hinsawdd Newidiol ar Iechyd a Lles

Yr angen am ddulliau cost-effeithiol o liniaru effeithiauâr newid yn yr hinsawdd ar iechyd
Mae disgyblaeth economeg iechyd, syân astudio sut yr ydym yn draddodiadol wedi defnyddio adnoddau prin i ddiwallu ein hanghenion gofal iechyd, yn trawsnewid yn gyflym i gofleidioâr ffordd yr ydym yn defnyddio adnoddau prin trwy ymyriadau iechyd cyhoeddus i atal afiechydon y gellir eu hosgoi, anabledd a marwolaethau cynamserol. Mae bellach yn un oâr disgyblaethau academaidd a all helpu i gynhyrchu tystiolaeth o ffyrdd cost-effeithiol o liniaru risgiau y gellir eu hosgoi i iechyd y boblogaeth yn sgil newid yn yr hinsawdd. Yma yng Nghymru, mae angen i ni ddeall bod yr heriau byd-eang o ran mynd iâr afael ââr risgiau syân codi yn sgil y newid yn yr hinsawdd hefyd yn debygol o effeithio ar gymunedau trefol a gwledig ar lefel leol.
Mae Ffigur 5 isod yn rhestru ystod o offer methodolegol y gellir eu defnyddio i werthuso costau a buddion cymharol ymyriadau i liniaru effeithiau negyddol posibl y newid yn yr hinsawdd, a ffactorau sy'n effeithio ar iechyd byd-eang a ffyrdd o flaenoriaethu ar draws yr ymyriadau posibl hyn.
Ffigur 5. Economeg iechyd fel cyfrannwr at ymchwil drawsddisgyblaethol ym meysydd iechyd, lles, cynaliadwyedd aâr newid yn yr hinsawdd
Un Iechyd / Economeg Un Iechyd | Dulliau dadansoddi economeg iechyd (dim trefn benodol): | Canolfan Ymchwil Llefydd Newid Hinsawdd (PloCC) |
Dull syân galw am âymdrechion cydweithredol disgyblaethau lluosog syân gweithioân lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, i sicrhauâr iechyd gorau posibl i bobl, anifeiliaid aân hamgylcheddâŚ. Maeâr dull yn ysgogi sectorau, disgyblaethau a chymunedau lluosog ar lefelau amrywiol o gymdeithas i gydweithio i feithrin llesiant a mynd iâr afael â bygythiadau i iechyd ac ecosystemau, wrth fynd iâr afael ââr angen cyfunol am ddĹľr glân, ynni ac aer, bwyd diogel a maethlon, gan weithredu ar newid hinsawdd a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwyâ |
Gall y dulliau hyn wneud defnydd o:
|
Mae Llefydd Newid Hinsawdd yn fforwm ymchwil cydweithredol sy'n uno safbwyntiau o nifer o ddisgyblaethau ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn caniatĂĄu i academyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr PhD roi sylw ar y cyd i syniadauân ymwneud ag ymdeimlad o le mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Mae'r syniad o 'le' wedi'i gydnabod ers amser maith mewn daearyddiaeth ddynol ac mewn meysydd eraill fel cysyniad lleoliadol y mae bodau dynol yn teimlo ymlyniad wrtho mewn rhyw ffordd (e.e., yn emosiynol, yn ddiwylliannol neu trwy ymdeimlad o gyfrifoldeb a pherchnogaeth). Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fyd-eang ond mae'n cael ei deimlo'n lleol, yn y lleoedd rydym yn byw ac yn teimlo cysylltiad â nhw.
|
Yn y maes iechyd y cyhoedd a gofal iechyd ataliol, mae angen i gleifion a systemau gofal iechyd âgyd-gynhyrchuâ gwell iechyd ac atal problemau iechyd y gellir eu hosgoi. Mae hyn hefyd yn wir o ran y risgiau syân codi yn sgil y newid yn yr hinsawdd. O ran iechyd y boblogaeth, mae'n hollbwysig bod y llywodraeth, cymunedau lleol ac unigolion yn cyd-gynhyrchu ffyrdd o atal afiechydon y gellir eu hosgoi. Gall Ffigur 6 isod fod yn ddefnyddiol wrth ein hatgoffa oâr llu o randdeiliaid aâr safbwyntiau amrywiol ar draws llunwyr polisi, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, cymunedau ac unigolion, y bydd pob un ohonynt yn wynebu effeithiauâr newid yn yr hinsawdd ar iechyd. Maent i gyd yn asiantau posibl wrth ddod o hyd i ffyrdd cost-effeithiol o liniaru effeithiau iechyd oâr fath yma yng Nghymru yn sgil y newid yn yr hinsawdd.
Ffigur 6. Nodweddion cydgynhyrchu o drafodaethau mewn gweithdai (Howarth et al., 2023)

I gloi, mae Cymruân cynnig microcosm fel cenedl fach a hardd lle gallwn ymgymryd ag ymchwil syân berthnasol i bolisi, a all fod yn fwy cyffredinol o lawer.
Cyfeiriadau
Edwards, R. T. (2022). Well-being and well-becoming through the life-course in public health economics research and policy: A new infographic. Frontiers in Public Health, 10, 1035260. https://doi.org/10.3389/fpubh.2022.1035260
Howarth, C., Lane, M., Morse-Jones, S., Brooks, K., a Viner, D. (2022). The âcoâ in co-production of climate action: challenging boundaries within and between science, policy and practice. Global Environmental Change, 72, 102445. https://doi.org/10.1016/j.gloenvcha.2021.102445
Marmot, M. (2020). Health equity in England: the Marmot review 10 years on. BMJ, 368.
Moreno, C., Allam, Z., Chabaud, D., Gall, C., a Pratlong, F. (2021). Introducing the â15-Minute Cityâ: Sustainability, resilience and place identity in future post-pandemic cities. Smart Cities, 4(1), 93-111.
Raworth, K. (2017). Doughnut economics. Chelsea Green Publishing.
Roberts, M., Morgan, L., a Petchey, L. (2023, Medi). Children and the cost of living crisis in Wales: How childrenâs health and well-being are impacted and areas for action. Public Health Wales. https://phwwhocc.co.uk/wp-content/uploads/2023/09/PHW-Children-and-cost-of-living-report-ENG.pdf
Schumacher, E. F. (1973). Small is beautiful: A study of economics as if people mattered. Little, Brown Book Group.
UK Health Security Agency. (2024, 15 Ionawr). Health effects of climate change in the UK: state of the evidence 2023.
https://assets.publishing.service.gov.uk/media/659ff6a93308d200131fbe78/HECC-report-2023-overview.pdf
Victor, P. A. (2023). Escape from overshoot: Economics for a planet in peril. New Society Publishers.