Dathlu Llwyddiant : Disgyblion o Ogledd Cymru yn Ennill rhai o鈥檙 Prif Wobrau yng Nghystadleuaeth Pont Tsiein毛eg y Deyrnas Unedig!
Mae鈥檔 bleser cael rhannu'r newyddion gwych bod dwy ddisgybl o ogledd Cymru wedi cael llwyddiant yn rownd derfynol y Bont Tsiein毛eg, sef cystadleuaeth siarad Mandarin.
Enillodd Lily Braiden o Ysgol Eirias y Wobr Gyntaf yn y categori Canolradd Plws, tra cafodd Niki Scherer o Ysgol Friars y Drydedd Wobr yn y categori Canolradd.
Mae hynny鈥檔 gryn lwyddiant ac yn adlewyrchu ymrwymiad, brwdfrydedd a thalent y ddwy ddisgybl. Rydym yn llongyfarch Lily a Niki yn gynnes ar eu llwyddiant ac yn estyn ein diolch a'n gwerthfawrogiad diffuant i'w tiwtor, Yuanyuan Luo, am ei hymroddiad, ei hanogaeth a'i haddysgu arbennig.
Mae eu llwyddiant yn amlygu cystal y gellir dysgu Mandarin yng ngogledd Cymru a pha effaith y gall hynny ei gael, ac rydym yn hynod falch o weld eu gwaith caled yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol.