Huw Gwynn, Swyddog Hyrwyddo Addysg Uwch drwy鈥檙 Gymraeg yng Nghanolfan Bedwyr, (Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg Cymraeg Prifysgol Bangor) sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 podlediad. Mae swydd Huw yn cael ei hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyllidwyd y podlediad gan Gronfa Bangor, sy鈥檔 cynnwys rhoddion gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn y Brifysgol.
Yn ystod y gyfres, bydd Huw yn sgwrsio 芒 chyn fyfyrwyr adnabyddus, gan eu holi am y ffyrdd amrywiol y mae鈥檙 Gymraeg wedi eu helpu nhw wedi iddynt gwblhau eu haddysg. Mae鈥檙 cyfranwyr yn cynnwys newyddiadurwr y BBC, Liam Evans, y cyflwynydd p锚l-droed, Sioned Dafydd, Huw Harvey sy鈥檔 aelod o鈥檙 gr诺p Fleur De Lys a鈥檙 chwaraewr rygbi, Teleri Davies.
Nod y podlediad yw defnyddio profiadau鈥檙 gwesteion er mwyn annog myfyrwyr chweched dosbarth yn ogystal 芒 myfyrwyr Prifysgol i weld y budd o ddilyn cyrsiau a modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Un sydd wedi gweld budd amlwg o ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yn ei waith yw鈥檙 newyddiadurwr, Liam Evans. Wrth sgwrsio ar y podlediad, dywedodd:
鈥淕wnaeth fy nghyfnod i ym Mangor wneud i mi deimlo鈥檔 gryfach am y Gymraeg. Doedd fy Nghymraeg i ddim ar ei gorau cyn i mi ddod i鈥檙 Brifysgol, ond mi roddodd astudio drwy鈥檙 Gymraeg y seilwaith cadarn yna i fi benderfynu mynd ymlaen i swyddi, yn hyderus i siarad yr iaith.
鈥淢ae 鈥榥a alw am sgiliau Cymraeg. Dwi鈥檔 darlledu鈥檔 ddwyieithog y rhan fwyaf o鈥檙 amser. Ond faswn i byth wedi cael y cyfle hwnnw heblaw fy mod i鈥檔 siarad Cymraeg. Faswn i byth wedi cael fy nhroed i mewn gyda鈥檙 BBC heb fy mod i鈥檔 ddwyieithog.鈥
Meddai cyflwynydd y podlediad Huw Gwynn:
"Dwi wir wedi mwynhau sgwrsio gyda gwesteion hynod ddifyr ac amrywiol dros yr wythnosau diwethaf a dod i wybod sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw yn eu gyrfaoedd. O wybod sut mae'r Gymraeg wedi cyfrannu at siapio gyrfaoedd llewyrchus, y gobaith ydi y bydd hynny yn ysbrydoli myfyrwyr a darpar-fyfyrwyr i barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn fynegi fy niolch i Gronfa Bangor y Brifysgol am ariannu datblygu'r podlediad ac i Aled Jones, o gwmni Y Pod am gynhyrchu'r penodau."
