Cwrs dwys yn gymorth i鈥檙 cynorthwywyr
Bydd 14 gynorthwywyr dosbarth yn dychwelyd i鈥檞 hysgolion cynradd ar hyd y gogledd-ddwyrain gyda sgiliau Cymraeg newydd, a hynny wedi iddynt gwblhau cwrs dysgu iaith dwys dan ofal staff Canolfan Bedwyr yn ddiweddar.
Mae aelodau鈥檙 dosbarth yn gweithio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn siroedd Conwy, Fflint, Dinbych a Wrecsam gyda鈥檙 mwyafrif helaeth heb sgiliau Cymraeg blaenorol.
Dros gyfnod o bum wythnos yn y Ganolfan Iaith yn Llanelwy, mae鈥檙 cynorthwywyr wedi treulio dyddiau llawn yn dysgu patrymau iaith a geirfa newydd ar gwrs lefel Mynediad, sydd wedi ei ddatblygu鈥檔 benodol ar eu cyfer gan diwtoriaid Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor.
Mae鈥檙 cwrs yn rhan o gynnig y Cynllun Sabothol, sef cynllun sydd wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflwyno鈥檙 Gymraeg i鈥檙 gweithlu addysg trwy gyrsiau dysgu iaith dwys. Yr un yw nod yr holl gyrsiau, sef gyrru aelodau staff yn 么l i鈥檞 hysgolion gyda鈥檙 sgiliau angenrheidiol i gyflwyno鈥檙 Gymraeg i鈥檞 disgyblion a鈥檜 cydweithwyr.

Cyflwynwyd eu tystysgrifau i鈥檙 cynorthwywyr yn ystod eu sesiwn olaf gan Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr. Meddai: "Mae鈥檙 cynnydd y mae鈥檙 cynorthwywyr wedi鈥檌 wneud dros bum wythnos yn rhyfeddol ac yn tystio i鈥檞 hymdrechion nhw a鈥檙 tiwtoriaid sydd wedi eu dysgu. Fe fyddan nhw'n gallu dychwelyd i'w hysgolion a defnyddio patrymau Cymraeg syml gyda disgyblion a chefnogi eu cydweithwyr i gyflwyno'r Gymraeg fel rhan o'r cwricwlwm. Dyma鈥檙 union gefnogaeth y bydd ei hangen ar ysgolion wrth i Fil Addysg Llywodraeth Cymru nes谩u at ddod yn realiti newydd i鈥檙 sector addysg.鈥
Wrth dderbyn ei thystysgrif, meddai Tamsin Jones, sy鈥檔 gweithio fel cynorthwyydd yn Ysgol Cynfran, Llysfaen: 鈥淒w i wedi cael yr amser gorau yn dysgu Cymraeg dros bump wythnos. Mae鈥檙 tiwtoriaid a鈥檙 ddysgwyr eraill yn hyfryd ac yn amyneddgar. Mae'r gwersi鈥檔 hwyl ac yn defnyddiol a dw i wedi dysgu llawer o sgiliau iaith newydd. Dw i wedi mwynhau pob dydd, yn enwedig ein dydd allan i gastell Ruthin. Roedd yn gyfle gwych i ni ddefnyddio ein sgiliau newydd!鈥