Ers dechrau鈥檙 gystadleuaeth yn 2017, dim ond 59 o brojectau sydd wedi eu hariannu drwy APEX, ac mae'r llwyddiant hwn yn nodi carreg filltir: dyma'r tro cyntaf i broject dan arweiniad prifysgol yng Nghymru dderbyn y wobr.
Mae鈥檙 gwobrau鈥檔 ariannu ymchwil sy鈥檔 annog chwilfrydedd a chreadigrwydd drwy ddod ag arbenigwyr o wahanol feysydd peirianneg ynghyd i ddatrys problemau anodd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Bydd y wobr yn cefnogi cydweithrediad dwy flynedd rhwng dau ymchwilydd uchel eu parch o Brifysgol Bangor. Y ddau ymchwilydd hyn yw鈥檙 Athro Zengbo Wang o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg a Dr Ellie Jameson o'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Mae eu project, Listen to the Cell Breathe: Investigating Viral Infection in Real-Time with Nano-Vibration Detection and Super-Resolution Imaging, yn cyfuno arbenigedd mewn ffotoneg uwch 芒 firoleg amgylcheddol.
Mae'r Athro Wang yn arbenigwr blaenllaw mewn delweddu uwch a thechnoleg golau. Mae'n dod 芒 ffyrdd newydd i'r project o edrych ar strwythurau bach a chanfod dirgryniadau bychain iawn. Mae Dr Jameson yn firolegydd amgylcheddol blaenllaw y mae ei arbenigedd yn cwmpasu ecoleg microbaidd a dynameg heintiau bacterioffagau. Mae Dr Jameson yn dod 芒 gwybodaeth werthfawr am sut mae'r heintiau firaol hyn yn gweithio gyda phwyslais ar fynd i'r afael 芒 bacteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Bydd yr ymchwil yn datblygu ffordd newydd o arsylwi haint firaol gan wylio a gwrando ar gelloedd wrth iddynt gael eu heintio. Gyda thechnoleg uwch, gall y t卯m weld strwythurau sy鈥檔 filoedd o weithiau'n llai na lled blewyn gwallt bod dynol. Gallant hefyd godi'r dirgryniadau gwan, fel 'anadliadau' bach, y mae celloedd yn eu gwneud pan fydd firysau'n ymosod arnyn nhw. Bydd y dull deuol hwn yn darparu cipolwg digynsail ar sut mae firysau'n rhyngweithio 芒'u lletywyr, gan ddiogelu eu hyfywedd鈥攇waith a allai osod y sylfaen ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol o ran diagnosio a thrin clefydau.

Mae Gwobr APEX yn rhoi cyfle unigryw inni gyfuno technoleg ddelweddu arloesol 芒 firoleg i agor pennod newydd o ran deall heintiau firaol. Rydym yn frwdfrydig nid yn unig am yr wybodaeth wyddonol ond hefyd am ddod 芒 rhyfeddod yr ymchwil hon i lygaid y cyhoedd.
鈥淢ae鈥檙 cydweithrediad hwn yn dangos grym dod 芒 gwahanol ddisgyblaethau ynghyd i fynd i鈥檙 afael 芒 chwestiynau sylfaenol. Gobeithiwn y bydd y canlyniadau鈥檔 ysbrydoli ymchwil bellach a cheisiadau yn y dyfodol er budd iechyd pobl a鈥檙 amgylchedd.鈥
Ochr yn ochr 芒'r ymchwil wyddonol, bydd t卯m ymchwil Bangor yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu 芒'r cyhoedd i rannu eu darganfyddiadau 芒'r gymuned ehangach. Bydd y rhain yn cynnwys mynd allan i ysgolion, darlithoedd cyhoeddus, a digwyddiadau rhyngweithiol a gynlluniwyd i ysbrydoli chwilfrydedd ynghylch gwyddoniaeth ac amlygu gwerth ymchwil ryngddisgyblaethol.
Mae鈥檙 wobr hon yn pwysleisio ymrwymiad Prifysgol Bangor i feithrin ymchwil drawsddisgyblaethol sy鈥檔 cyflawni rhagoriaeth wyddonol ac effaith gymdeithasol. Drwy ddod ag arbenigedd blaenllaw ynghyd o鈥檔 gwahanol ysgolion, rydym ni nid yn unig yn mynd i鈥檙 afael 芒 heriau cymhleth ond hefyd yn gosod Bangor ar flaen y gad o ran ymchwil drawsnewidiol, chwilfrydig, sydd ag arwyddoc芒d gwirioneddol fyd-eang.
Ochr yn ochr 芒 Gwobr APEX ddwy flynedd, bydd y project hefyd yn cael ei gefnogi gan Gronfa Wynne Humphrey Davies, sy鈥檔 cael ei weinyddu gan Gronfa Bangor. Mae鈥檙 Gronfa yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Mae cefnogaeth Cronfa Wynne Humphrey Davies yn ymestyn yr ysgoloriaeth i fod yn PhD lawn ac yn agor y drws ar gyfer cydweithrediadau ymchwil newydd gyda sefydliadau blaenllaw yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys MIT a Phrifysgol Northeastern, gan wella cyrhaeddiad byd-eang ac effaith hirdymor y project.
Gallwch weld y cyhoeddiad swyddogol yma:
Dyluniad inc yn seiliedig ar y syniadau y tu 么l i'r grant
