Gwobr Gerddoriaeth 2024 Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones
Mae Hannah Copner, sy鈥檔 fyfyrwraig cerddoriaeth 么l-radd, wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth fawreddog Gaynor Cemlyn-Jones 2024 am dderbyn y marc uchaf am ei datganiad terfynol. Cafodd y wobr, sy鈥檔 cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones mewn cydweithrediad 芒鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau, ei chyflwyno fel rhan o ddatganiad gan fyfyrwyr 么l-radd Perfformio.
Cynhaliwyd y datganiadau yn Theatr Bryn Terfel Pontio, ac roedd hefyd yn gyfle i gael clywed sain piano traws Steinway y Brifysgol, sydd hefyd yn rhodd hael a gafwyd yn y gorffennol gan yr Ymddiriedolaeth. Bu Dr Iwan Llewelyn-Jones, pianydd ac uwch ddarlithydd yn Adran y Celfyddydau, yn cyfeilio i鈥檙 perfformwyr ac yn llywyddu鈥檙 digwyddiad.
Cyflwynwyd y wobr gan Jan Lea, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones, a鈥檙 Athro Sue Niebrzydowski, Deon Ymchwil 脭l-radd Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas. Yn ogystal 芒 Hannah, roedd tri myfyriwr 么l-radd arall yn perfformio ar y noson, gan arddangos doniau gyda鈥檙 bariton, y ffliwt a鈥檙 ffidil.
Jan Lea, from the Gaynor Cemlyn-Jones Trust, commented,
Roedd yn hyfryd bod yno yn gwrando ac yn cyfarfod 芒鈥檙 myfyrwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Am dalent!
Dywedodd yr Athro Sue Niebrzydowski,
Roedd y datganiad hwn dros amser cinio yn ddechrau gwych i'r flwyddyn academaidd newydd. Llwyddodd y perfformwyr i arddangos eu talent sylweddol i gynulleidfa werthfawrogol iawn. Mae鈥檙 Brifysgol yn ddyledus i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones am ei chefnogaeth hael i astudiaethau a pherfformiadau cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Ar 么l derbyn y wobr dywedodd Hannah,

Mae astudio cerddoriaeth ym Mangor wedi fy ngalluogi fi i ddatblygu fel perfformiwr ac fel cerddor. Dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi cael cyfle i berfformio fel unawdydd gyda chorws a cherddorfa symffoni鈥檙 Brifysgol, a pherfformio yng Nghadeirlan Bangor. Pen-llanw鈥檙 profiadau hynny oedd paratoi at ddatganiad olaf fy rhaglen Meistr, a oedd yn ffordd arbennig o orffen fy nghyfnod ym Mhrifysgol Bangor. Roedd hi鈥檔 anrhydedd ennill y wobr hon, a dwi'n falch o'r hyn dwi wedi llwyddo i鈥檞 gyflawni. Dwi鈥檔 ddiolchgar i鈥檙 Adran Gerddoriaeth ac am gefnogaeth yr Ymddiriedolaeth


Ychwanegodd Persida Chung, sy鈥檔 Swyddog Datblygu,
Mae鈥檙 Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones, am eu cefnogaeth barhaus. Mae eu cefnogaeth yn galluogi鈥檙 Brifysgol i gydnabod a gwobrwyo myfyrwyr am arddangos eu doniau eithriadol.