Llawenydd wastad i鈥檞 gael mewn bywyd academaidd: Astudiaeth yn archwilio sut mae llawenydd i'w ganfod yn y byd academaidd聽聽
Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr a myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Ume氓 yn Sweden yn archwilio sut mae pobl yn canfod llawenydd mewn bywyd academaidd.
Mae鈥檙 ymchwil a gyhoeddir yn yn archwilio鈥檙 pwnc o lawenydd yng nghyd-destun heriau yn y sector addysg uwch.
Mae'r papur yn ystyried profiadau o lawenydd pum math gwahanol o bobl yn y byd academaidd: myfyriwr, ymchwilydd doethurol, darlithydd ar ddechrau eu gyrfa, yr uwch ddarlithydd sefydledig a'r athro.
Mae unigolion sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn archwilio llawenydd mewn addysg uwch o safbwynt eu profiadau bywyd personol.
Mae'r papur wedi'i gyflwyno fel deialog ac yn dwyn ynghyd pum llais ar draws dwy wlad a gwahanol ddiwylliannau i gloriannu鈥檙 hyn y mae'n ei olygu i brofi llawenydd mewn lleoliadau addysg uwch.
Dywedodd Dr Alex Baxendale, darlithydd yn Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Bangor: 鈥淓fallai, yn annisgwyl, ychydig iawn o ymchwil a wnaed i emosiwn llawenydd. Mewn gwirionedd, dyma'r emosiwn cadarnhaol y bu lleiaf o ymchwil yn ei gylch. Er bod llawer o adroddiadau am lawenydd yn edwino ym maes addysg uwch, mae yna hefyd adroddiadau am adegau o lawenydd mewn addysg uwch sy'n cadw diddordeb myfyrwyr ac academyddion eu gwaith a鈥檜 hastudiaethau.鈥
Dywedodd Kirk P H Sullivan, Athro Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Ume氓, ac Athro er Anrhydedd Addysg ym Mhrifysgol Bangor, 鈥淢ae鈥檙 ddeialog yn datblygu fel sgwrs agored, wrth i bob safbwynt ddyfnhau ac ehangu鈥檙 ddealltwriaeth unigol a chyfunol o lawenydd mewn addysg uwch. Mae'r myfyrdodau a gynigir gan y sawl sy鈥檔 rhan o鈥檙 astudiaeth yn gwahodd ailystyried llawenydd mewn addysg鈥攏id fel teimlad preifat, dros dro, ond fel arfer gymhleth, gymdeithasol.
鈥淐aiff y syniad o lawenydd fel rhywbeth mewnol ac unigol ei herio. Yn hytrach, daw i'r amlwg fel ffenomen gymdeithasol鈥攚edi'i chynhyrchu mewn deialog a'i chynnal trwy ymdrech ddeallusol a chyfunol, sy'n cael ei meithrin dros amser. Mae llawenydd yn ymwneud llai 芒鈥檙 hyn y mae rhywun yn ei deimlo a mwy am yr hyn maen nhw'n ei greu gydag eraill. Nid yw'r tensiwn rhwng llawenydd fel unigolyn a llawenydd fel profiad cymdeithasol yn rhywbeth deuaidd i'w ddatrys, ond yn ofod creadigol o ymholi.鈥
Yn eu casgliad mae awduron yr astudiaeth yn gwahodd y darllenydd i ystyried llawenydd mewn addysg nid fel man terfyn ond yn hytrach fel arfer. Maent yn ei egluro fel math o ofal, dull o berthynas, a ffordd o greu ystyr sy'n cynnal bywyd addysgol yn ei holl gymhlethdod.