Cyn-fyfyriwr yn Brif Olygydd North Wales Live a鈥檙 Daily Post
Yn ddiweddar, penodwyd Dion Jones, cyn-fyfyriwr BA Hanes gyda Newyddiaduraeth yma ym Mangor, i swydd Prif Olygydd North Wales Live a鈥檙 Daily Post. Dyma ychydig o鈥檌 hanes a sut y mae gradd o Fangor wedi helpu ei yrfa:鈥淒echreuais astudio am radd BA mewn Hanes gyda Newyddiaduraeth ym Mangor yn 2004, gan raddio yn 2007.
鈥淒ewisais astudio ym Mangor oherwydd roedd opsiynau鈥檙 cwrs yn ddigon hyblyg i鈥檓 galluogi i ymdrochi yn fy niddordebau hanesyddol 鈥 yn arbennig hanes Cymru 鈥 tra ar yr un pryd ddilyn fy niddordeb mewn newyddiaduraeth, rhywbeth na lwyddais i鈥檞 ganfod yn unlle arall.
鈥淭reuliais dair o鈥檓 blynyddoedd hapusaf ym Mangor a gallaf ddweud yn berffaith onest na fyddwn i鈥檔 gwneud yr hyn rydw i鈥檔 ei wneud r诺an oni bai am yr addysg a dderbyniais yn y brifysgol.
鈥淩roedd yr agwedd newyddiadura ar fy ngradd yn ddylanwad mawr arnaf wrth imi geisio gyrfa. Roedd modiwlau newyddiaduraeth eu hunain yn amrywiol ac yn cynnwys popeth o ddyluniad print a newyddiadura ar-lein i ddarlledu radio a theledu. Roedd hyn yn hynod fuddiol gan iddo fy nghyflwyno i amrywiaeth o opsiynau gyrfaol y gallwn eu ceisio. Hefyd, fe wnes nifer o ffrindiau tra鈥檔 dilyn y cwrs 鈥 sawl un yn dal i fod yn ffrindiau hyd heddiw 鈥 ac sydd wedi mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych yn y diwydiant.
鈥淐efais ddarlithoedd gan bobl fel Llion Iwan 鈥 newyddiadurwr a chr毛wr rhaglenni dogfen Cymraeg uchel ei barch 鈥 ymysg eraill. Rydw i鈥檔 cofio meddwl ar y pryd pa mor lwcus roeddwn i gael fy nysgu gan ffigyrau uchel eu parch yn y diwydiant. Roedd clywed eu profiadau yn y diwydiant a throsglwyddo eu gwybodaeth wedi cadarnhau鈥檙 syniad mai hwn oedd y llwybr gyrfaol imi.
鈥淭ra oeddwn ym Mangor hefyd fe welais fy narnau cyhoeddedig cyntaf. Roeddwn yn gyfrannwr cyson i鈥檙 papur newydd i fyfyrwyr, SEREN, a bu鈥檙 profiad yn help mawr imi gymhwyso鈥檙 holl wybodaeth a enillais i ymarfer go iawn.
鈥淓r mai cam cyntaf ar ffordd a fuasai鈥檔 arwain at yrfa mewn newyddiadura oedd Prifysgol Bangor, yr oedd yn gam arwyddocaol. Addysgodd y cwrs yr holl sgiliau a fyddai arnaf eu hangen i鈥檓 helpu yn y stafell newyddion ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai nodi enw Prifysgol Bangor ar fy CV a鈥檓 helpodd i gael fy swydd gyntaf yn y diwydiant 鈥 newyddiadurwr dan hyfforddiant yn y Cambrian News ym Mhorthmadog.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2020