
Rhagolwg
Mi nes i benderfynu astudio Hanes yn y Brifysgol am y rheswm syml fy mod i'n mwynhau'r pwnc, a dwi dal yn ei fwynhau: ma' 'na wastad bethe newydd i'w dysgu, ac mae'r chwilfrydedd yma'n help i ddeall y byd heddiw. Felly, dros 20 mlynedd ers i mi ddod i Brifysgol Bangor fel myfyriwr is-radd (wedyn MA a PhD) dwi dal yma, ac yn Ddarlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru ers 2013. Â
Dwi'n edrych yn bennaf ar hanes o ddiwedd oes Victoria hyd at ddechrau'r 21ain ganrif, ac mae gen i ddau brif ddiddordeb yn fy ymchwil ac addysgu. Yn gyntaf, edrych ar hunaniaethau cenedlaethol, yn benodol yng Nghymru. Yn ail, archwilio hanes bywyd-bob-dydd, sy'n rhoi golwg i ni ar sut mae pobl wedi byw yn y gorffennol. Gyda'i gilydd mae hyn yn golygu fod llawer o fy modiwlau i'n eclectig o ran cynnwys, ac efo trafodaethau am bynciau sy'n ymestyn o genedlaetholdeb, y frenhiniaeth, datganoli a rhywedd i feysydd fel y diwydiant niwclear, astudiaethau tirlun a hanesion bwyd, anifeiliaid a thatŵs. Â
Ymysg y modiwlau sydd gen i ar y llyfrau mae Cymru yn y Byd Modern; Ail-Danio'r Ddraig: Cymru wedi 1939; Britain in the Jazz Age; Nationalism in the UK a Raving in the 1990s. Ar lefel MA dwi'n cydlynu modiwl hanes Cymru sef Global Wales. Dwi'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac wrth fy modd yn addysgu'n Gymraeg ac yn Saesneg.
Dwi ar hyn o bryd yn ysgrifennu monograff ar ogledd-ddwyrain Cymru rhwng 1950 a 1962, yn ymwneud efo projectau hanes llafar trwy Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) ac yn cydweithio ar ymchwil i gymunedau niwclear yng ngogledd Cymru. Dwi'n mwynhau sgwrsio am fy ymchwil efo cymdeithasau hanes lleol ac ysgolion. Dwi hefyd yn cyfrannu ar y teledu a radio i drafod pynciau fel y frenhiniaeth a chenedlaetholdeb.
Dwi'n ffodus i fod yn goruchwylio ymchwilwyr PhD talentog, sy'n edrych ar feysydd megis hanes mynydda a chenedlaetholdeb adain dde. Rwyf hefyd yn cyd-oruchwylio nifer o ddoethuriaethau ISWE ar bynciau megis sgwatwyr & aneddiadau gwledig a merched mewn amaethyddiaeth. Â
O ran fy ngwaith gweinyddol yn y Brifysgol, dwi'n Diwtor Derbyn Hanes ac yn gydlynydd Hanes/Treftadaeth ym Mangor gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Â
Addysgu ac Arolygiaeth
BA
- Cymru yn y Byd Modern / Wales in the Modern WorldÂ
- Ail-Danio'r Ddraig/ Re-igniting the Dragon
- Britain in the Jazz Age
- Nationalism in the UK
- Raving in the 1990s? Â
- Making History
- Crefft yr Hanesydd
²Ñ´¡Ìý
- Global Wales
- People, Power and Political Action
- Documents and Sources Modern
- Themes and Issues
Diddordebau Ymchwil
- Cenedlaetholdeb yr 20fed ganrif
- Y Frenhiniaeth
- Protest a'r iaith Gymraeg
- Datganoli
- Hanes tirlun a gwledigrwydd
- Cymunedau niwclear
- Gogledd-ddwyrain Cymru
- Hanes anifeiliaid
- Hanes bywyd bob dydd (e.e. tatŵs, bwyd, chwaraeon).
Cyhoeddiadau
2025
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M., Gorff 2025, Memory and Nation: Writing the History of Wales. Thomas, R., Jarrett, S. & Olson, K. K. (gol.). Caerdydd: University of Wales Press, Cardiff, t. 352-378
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2024
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M., 1 Medi 2024, Y Faner Newydd, 109, t. 14-17.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl - Cyhoeddwyd
Wiliam, M. & Collinson, M., 6 Maw 2024, The Conversation.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl - Cyhoeddwyd
Wiliam, M., Mai 2024, Yn: Hanes Byw. 4, t. 20-21
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
2023
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M., Medi 2023, Yn: Hanes Byw. 1, t. 18-21
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl - Cyhoeddwyd
Collinson, M., Wiliam, M., Evans, S., Williams, C. & Rowland, M., 27 Ion 2023, Rural History Today, 44, t. 5-6.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl
2022
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M., 4 Ebr 2022, Yn: Cultural and Social History. 19, 3, t. 301-322
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2021
- Cyhoeddwyd
Collinson, M. & Wiliam, M., 2021, Yn: Innovative Practice in Higher Education. 4, 2, t. 239-262 8.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2016
- Cyhoeddwyd
Collinson, M. & Wiliam, M., 14 Medi 2016.
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur
2015
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M. E., Williams, C. (Golygydd) & Edwards, A. (Golygydd), 1 Awst 2015, The Art of the Possible: Politics and Governance in Modern British History: 1885-1997: Essays in Memory of Duncan Tanner. 2015 gol. Manchester University Press
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2014
- Cyhoeddwyd
Wiliam, M. E., 1 Rhag 2014, Yn: Welsh History Review. 27, 2, t. 383-386
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
2009
- Cyhoeddwyd
Tanner, D. M., Wiliam, M. E., Flinn, A. (Golygydd) & Jones, H. (Golygydd), 1 Ion 2009, Freedom of Information: Open Access: Empty Archives?. 2009 gol. Routledge, t. 54-74
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Personol
Dwi'n mwynhau garddio (yn arbennig blodau) ac wedi gwirioni ar anifeiliaid: mae gen i gŵn ac ieir. Dwi hefyd yn ffan mawr o bêl droed. Mae llawer o'r diddordebau yma'n ymddangos yn fy nysgu ac ymchwil yn ogystal!