Modiwlau Hydref 2025
Modiwlau Gwanwyn (Ebrill) 2026
Trosolwg ar y Modiwl
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar faterion allweddol sy'n codi o ymchwil gyfoes i reolaeth adnoddau dynol ac ymddygiad sefydliadol. Mae’n darparu dadansoddiad integredig o reolaeth, sefydliadau a phobl, gan ddatblygu’r sgiliau cysyniadol, strategol ac ymarferol sy’n angenrheidiol i reolwyr.
Nodau ac Amcanion:
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- Gallu gwerthuso theori ac ymarfer rheoli a sefydliadol yn feirniadol
- Gallu cysylltu theori rheoli â phrofiad personol o amgylchedd gwaith
- Gwahaniaethu rhwng mathau o strwythur sefydliadol, diwylliant a dylunio swyddi
- Gwerthfawrogi'r agweddau adnoddau dynol ar reoli ac arwain pobl
- Gallu asesu'n feirniadol y prosesau rheoli sy'n gysylltiedig â rheoli mewn amgylchedd sy'n gynyddol gymhleth
Testun Allweddol:
Organisational Behaviour: Improving Performance and Commitment in the Workplace (6th Edition) Colquitt, J. Lepine, J. and Wesson, M. - McGraw Hill
Dull Asesu:
Asesir y modiwl hwn trwy gyfrwng aseiniad unigol (40%) ac arholiad (60%).
Uned Un - Unigolion a Phobl
Nod yr uned hon yw eich cyflwyno i faes cyfan y sefydliad a'r rheolaeth. Yn wahanol i ddisgyblaethau MBA eraill, ni ellir disgrifio hyn fel maes astudio manwl gywir gyda rhestr glir a absoliwt o gynnwys. Yn hytrach, yn union fel y grwpiau o bobl rydych chi'n eu harwain, mae'n gasgliad o feysydd gwahanol sydd gyda'i gilydd yn rhoi rhywfaint o fewnwelediad i ni o sut rydyn ni'n mynd i'r afael â'r maes rheoli pwysig hwn. Ni fyddwn ar unrhyw adeg yn siarad am 'atebion cywir 'i broblemau rheoli pobl. Yn hytrach, byddwn yn edrych ar rywfaint o'r wybodaeth gronnus a gafwyd dros amser, yn trafod safbwyntiau amgen ac yn asesu posibiliadau ar gyfer eu defnyddio'n llwyddiannus yn y dyfodol.
Er hwylustod astudio, rhennir yr uned hon yn saith rhan, gyda phob adran yn gyntaf yn nodi ei hamcanion dysgu, y rhan o'r gwerslyfr i'w darllen, cyn rhoi gwybodaeth a thrafodaeth ychwanegol i chi os oes angen. Drwy gydol yr uned mae'n bwysig i chi adlewyrchu'r hyn rydych chi'n ei ddarllen ac yn ei ddysgu yn ôl arnoch chi'ch hun a'ch profiadau eich hun.
Uned Dau - Rheoli Sefydliadau a Phobl
Trosolwg o’r Modiwl
Mae’r modiwl hwn yn dadansoddi’n feirniadol yr agweddau hynny ar gyllido terfysgaeth a lledaenu arian – yn benodol sut y gall crypto-asedau fod yn rhan o’r model adnoddau terfysgol trwy hwyluso gwyngalchu arian rhwng rhanddeiliaid (terfysgwyr a gwrthryfelwyr, troseddwyr cyfundrefnol trawswladol, swyddogion llwgr, a gwladwriaethau twyllodrus) mewn rhwydwaith lledaenu arian. Mae gwybodaeth am gydrannau rhwydwaith yn darparu cyfleoedd i ganfod y troseddau hyn wrth i adnoddau basio ar hyd llwybrau lledaenu. Mae chwiliadau cudd-wybodaeth ffynhonnell agored ynghyd â dulliau traddodiadol yn cynnig posibiliadau i ganfod troseddau er mwyn gwrthsefyll y bygythiadau hyn i ddiogelwch cenedlaethol - sy’n gofyn am ystyried perthnasedd a dibynadwyedd gwybodaeth
Dulliau Dysgu
Mae Modiwlau Sengl yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng dysgu o bell ac yn rhan amser, lle gallwch chi astudio ar eich cyflymder eich hun, ni waeth ble rydych chi yn y byd. Darperir cyfuniad o ddosbarthiadau rhyngweithiol a darlithoedd wedi'u recordio trwy gydol y semester 6 mis, gan roi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith i gyfranogwyr.
Blackboard yw'r amgylchedd dysgu rhithiol (VLE) a ddefnyddir gan Brifysgol Bangor lle mae pob modiwl yn elwa o faes pwrpasol yn y platfform lle cedwir yr holl adnoddau astudio. Mae adnoddau'n cynnwys canllawiau astudio, e-werslyfrau a mynediad i'r llyfrgell ar-lein.
Ffi Modiwl
Modiwl 15 Credyd: £1,700
Modiwl 30 Credyd: £3,400
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb ymgeisio i astudio modiwl Addysg Weithredol, cysylltwch gyda'r tîm ar executiveeducation@bangor.ac.uk