91¿ì»îÁÖ

Fy ngwlad:
discover economics

Ysbrydoli'r Dyfodol: Allgymorth yn Ysgol Fusnes Albert Gubay

Mae pob un o'n gweithgareddau wedi'u seilio ar un nod, sef ysbrydoli meddyliau ifanc a chreu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Myfyrwyr yn cerdded tuag at Hen Goleg

Cefnogaeth Bynciol Safon Uwch

Sesiynau dan arweiniad arbenigwyr mewn economeg, marchnata a chyfrifeg ariannol i gryfhau gwybodaeth a meithrin hyder. Wedi'u cynllunio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 12–13.

Myfyrwyr yn sgwrsio ac yn chwerthin dros bryd o fwyd

Caffi Gyrfaoedd

Cyfarfodydd hamddenol, rhyngweithiol lle gall disgyblion (blynyddoedd 11–13) ystyried llwybrau gyrfa a chlywed straeon go iawn gan weithwyr proffesiynol.

Dau berson yn sefyll ar lawr Ystafell Fasnachu

DataBusnesBangor

Gweithdai ymarferol ar ddadansoddi data a rhaglennu, yn cyflwyno sgiliau digidol hanfodol mewn ffordd ymarferol a diddorol i ddisgyblion blynyddoedd 12–13.

BBS Investment Challenge

Her Fuddsoddi

Gweithgaredd chwim yn efelychu masnachu ac yn datblygu sgiliau megis gweithio fel tîm, datrys problemau a gwneud penderfyniadau o dan bwysau. Ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12.

poland workshop

Gweithdai Arweinyddiaeth Uchelgeisiol

Sesiynau hwyliog ac ysgogol sy'n meithrin hyder, yn datgloi uchelgais, ac yn hau hadau llwyddiant ar gyfer y dyfodol. Ar gyfer disgyblion blynyddoedd 9–11.

Cynhadledd Darganfod Economeg

Cynadleddau Chweched Dosbarth

Mwy na darlithoedd — mae'r cynadleddau deinamig, ymarferol hyn yn cynnwys gweithdai ysbrydoledig lle bydd disgyblion yn cael profiad ymarferol o ddysgu mewn prifysgol, yn cael dod i gyswllt â'r llywodraeth, arbenigwyr yn y diwydiant, a chyrff proffesiynol, ac yn cael archwilio'r ystod eang o gyfleoedd y gall addysg uwch eu cynnig.

Gweithio mewn Partneriaeth a Chydweithio

Drwy weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, a STEM Cymru, rydym yn ymestyn ar ein cenhadaeth o ysbrydoli meddyliau ifanc a chreu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol:  

  • Cynadleddau Chweched Dosbarth (Llywodraeth Cymru): Gweithdai diddorol a sesiynau rhyngweithiol sy'n dod ag addysg uwch yn fyw.
  • Projectau STEM (STEM Cymru): Arddangos elfennau digidol, elfennau datrys problemau ac elfennau arloesol ein rhaglenni — gan annog mwy o ferched i ystyried busnes.
  • Dyfodol Cyfrifeg (Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr): Agor llwybrau i'r proffesiwn cyfrifeg ac amlygu'r amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael.

Gyda'i gilydd, mae'r cydweithrediadau hyn yn helpu disgyblion i feithrin hyder, codi dyheadau, a gweld addysg uwch fel llwybr at ddyfodol cyffrous.

 

ICAEW logo
Welsh Government Logo transsparent
Stem Cymru Logo

Gweithgareddau

BBS Investment Challenge

Her Fuddsoddi Mehefin 2025

Ar ddydd Gwener, 27 Mehefin, fe wnaethom estyn croeso i ddisgyblion Safon Uwch gymryd rhan yn yr Her Fuddsoddi lle cawsant brofiad ymarferol a hynod ddiddorol.

Aeth myfyrwyr ar daith o amgylch y brifysgol a mynd i weld yr ystafell fasnachu, lle cawson nhw ddysgu am werth terfynellau Bloomberg a dysgu am fasnachu mewn banciau buddsoddi.

BBS Investment Challenge Award

Gwobrwyo Enillydd yr Her Fuddsoddi

Dyfarnwyd y wobr i Daniel Twigge o Ysgol Bodedern am gymryd rhan yn yr Her Fuddsoddi. 

Cynigiodd y profiad ymarferol hwn fewnwelediad go iawn i fyd chwim masnachu.

Discover data conference

Cynhadledd Darganfod Data Mawrth 2025

Fe wnaethom estyn croeso i ddisgyblion o flynyddoedd 11, 12 a 13 yn ysgolion gogledd Cymru a'u trochi ym myd chwim dadansoddeg data busnes.

Yn cymryd rhan yn y gynhadledd roedd siaradwyr arbenigol o Lywodraeth Cymru, Google, a sefydliadau blaenllaw eraill, gan roi mewnwelediad i sut mae data yn trawsnewid busnes.

students in PJ Hall on round tables

Cynhadledd Darganfod Economeg Hydref 2024

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, braf oedd cael croesawu rhai o ysgolion gogledd Cymru i'r Gynhadledd Darganfod Economeg. 

Staff at the Discover Economics conference smiling to camera

Cynhadledd Darganfod Economeg Hydref 2024

Cymerodd disgyblion o flynyddoedd 11, 12 a 13 ran mewn dysgu rhyngweithiol, a oedd yn arddangos pŵer trawsnewidiol economeg a'r cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd ar gael.

Investment Challenge

Her Fuddsoddi Mehefin 2025

Daeth disgyblion o Ysgol Bodedern ac Ysgol Syr Thomas Jones i gymryd rhan yn yr Her Fuddsoddi.

Investment Challenge

Her Fuddsoddi Mehefin 2025

Daeth disgyblion o Goleg Myddelton i gymryd rhan yn yr Her Fuddsoddi.

Cynhadledd Darganfod Economeg

Cynhadledd Darganfod Economeg

Staff Academaidd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn cyd-weithio gyda Llywodraeth Cymru.

"Diolch i'r tîm allgymorth, mae'r 'Gweithdy Arweinyddiaeth Uchelgeisiol 'wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y dysgwyr. Roedd y sesiynau'n ardderchog, wedi'u cyflwyno ar y lefel gywir ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm, creadigrwydd, datrys problemau a chyfathrebu."

Amanda Creevy,  Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Uwchradd, Cei Connah
Cwrdd â’r Tîm

Cwrdd â'r Tîm Allgymorth ac Ymgysylltu

Cwrdd â’r Tîm

Cwrdd â'r Tîm Allgymorth ac Ymgysylltu

Emma Herbert staff

Emma Herbert

Gweinyddwr yr Ysgol Fusnes Alber Gubay

Sioned Hughes staff

Sioned Hughes

Swyddog Marchnata Ysgol Fusnes Albert Gubay

Ysgol Fusens Albert Gubay, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG

Cymryd Rhan

Ydych chi’n barod i ysbrydoli meddyliau ifanc a chreu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol?

Byddai ein Tîm Allgymorth wrth eu boddau’n gweithio gyda'ch ysgol neu'ch coleg chi.

Gadewch i ni agor drysau, sbarduno uchelgais, a llunio’r dyfodol — gyda'n gilydd.

 

Ysgol Fusens Albert Gubay, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG