Cynhelir yr 诺yl ddeuddydd yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, Storiel ac Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae鈥檔 cynnwys rhaglen gyfoethog o weithdai, trafodaethau, arddangosfeydd rhyngweithiol, a sgyrsiau gwadd, pob un wedi'i gynllunio i ddod 芒 hanes rhyfeddol Bangor yn fyw. Mae'r digwyddiad yn ystod y dydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i'r cyhoedd, gyda rhaglenni dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg i adlewyrchu gwreiddiau diwylliannol y ddinas.
Dywedodd Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr y Ddinas yng Nghyngor Dinas Bangor: 鈥淢ae Bangor 1500 yn fwy na choffadwriaeth, mae'n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddathlu etifeddiaeth ryfeddol ein dinas. Rydym yn dod ag ysgolion, y brifysgol, grwpiau cymunedol, sefydliadau diwylliannol a phartneriaid eraill ynghyd i anrhydeddu 1,500 o flynyddoedd o hanes, ac i ysbrydoli balchder yn nyfodol Bangor. Dim ond y dechrau yw'r 诺yl hon.鈥
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Edmund Burke: 鈥淩ydym wrth ein bodd yn cynnal G诺yl Hanes Bangor yng nghanol cymuned ein prifysgol. Mae'r dathliad hwn yn anrhydeddu hanes rhyfeddol Bangor a Gogledd Cymru ac mae hefyd yn dangos sut mae addysg, diwylliant ac ymchwil wedi llunio hunaniaeth y ddinas. Mae'n foment falch i Brifysgol Bangor gyfrannu at achlysur mor nodedig ac rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth agos 芒 Chyngor Dinas Bangor a phartneriaid eraill.鈥
Ychwanegodd Yr Athro Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor: 鈥淢ae G诺yl Hanes Bangor yn gyfle unigryw i ddod 芒 hanes yn fyw i鈥檔 myfyrwyr, staff 补鈥檙 gymuned ehangach. Drwy gyfuno mewnwelediad academaidd ag ymgysylltu cyhoeddus, rydym yn sicrhau bod treftadaeth Bangor yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.鈥
Dydd Gwener, 17 Hydref: Ysgolion yn Cymryd yr Awenau
Mae'r 诺yl yn dechrau gyda diwrnod deinamig wedi'i deilwra ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. Bydd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o ysgolion cynradd lleol a disgyblion Blwyddyn 11 a 12 o ysgolion uwchradd yng Ngwynedd ac Ynys M么n yn dod i Pontio am ddiwrnod o fewnwelediadau hanesyddol. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
- Sesiwn groeso yn cyflwyno disgyblion i Brifysgol Bangor a them芒u'r 诺yl
- Cyflwyniad arbennig gan yr Ysgol Hanes gan gynnwys gweithdy 鈥淎rwyr Lleol?鈥
- Stondinau a gweithdai rhyngweithiol ymarferol ar draws Pontio a Storiel
- Sgyrsiau ar Brydain Rufeinig gan yr hanesydd a'r awdur Greg Jenner
- Bydd cyfle hefyd i athrawon gysylltu 芒 staff y brifysgol i archwilio cydweithrediadau yn y dyfodol a chyfoethogi'r cwricwlwm.
Bangor 1500: Dathliad Dinas Gyfan
Wrth wraidd yr 诺yl mae Bangor 1500, menter ledled y ddinas sy'n dathlu taith nodedig Bangor o'i gwreiddiau canoloesol cynnar i'w bywiogrwydd modern. Disgwyliwch sesiynau adrodd straeon, arddangosfeydd treftadaeth leol, a chyfleoedd i archwilio r么l y ddinas wrth lunio hunaniaeth Gymreig ar draws y canrifoedd.
Dydd Sadwrn 18 Hydref: Agored i Bawb
Mae'r ail ddiwrnod yn agor y drysau i'r gymuned ehangach, gydag amserlen lawn o sgyrsiau cyhoeddus, trafodaethau panel, arddangosfeydd, teithiau cerdded, a digwyddiadau diwylliannol. P'un a ydych chi'n breswylydd gydol oes neu'n ymwelydd chwilfrydig, mae'r 诺yl yn cynnig rhywbeth i bawb o Fangor ganoloesol i'w hanes LHDTC+ a'i gwytnwch yn ystod rhyfel.
Prif Sgyrsiau gyda Greg Jenner a Kate Williams
Un uchafbwynt rhaglen gyda'r nos yr 诺yl ar y ddau ddiwrnod fydd dwy brif sgwrs: Bydd Greg Jenner, hanesydd cyhoeddus Prydeinig, awdur llwyddiannus, a darlledwr, yn traddodi 鈥淎sk a Historian: 鈥淎n Evening with Greg Jenner鈥, yn dod 芒 hanes yn fyw gyda鈥檌 hiwmor a鈥檌 fewnwelediad nodweddiadol, tra bydd yr hanesydd, y darlledwr, 补鈥檙 awdur llwyddiannus, yr Athro Kate Williams, yn cyflwyno 鈥淨ueens, Castles and Welsh Heroines: 鈥淪ecrets Behind The Castle Walls鈥, gan ddatgelu straeon a gwaddol pwerus merched nodedig yn hanes Cymru. Mae tocynnau ar werth ar wefan , a thocynnau ar gyfer sesiynau鈥檙 补鈥檙 o鈥檙 gweithdai 鈥淕et thy Bearings!鈥 ar gael ar wefan Storiel.
Mae'r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor (gan gynnwys Pontio), Cyngor Dinas Bangor, Storiel ac Eglwys Gadeiriol Bangor, gyda chefnogaeth gan sawl sefydliad lleol allweddol. Mae G诺yl Hanes Bangor yn fwy na digwyddiad yn unig; mae'n ddathliad o gymuned, hunaniaeth, a'r straeon sydd wedi llunio ein gorffennol ac a fydd yn dylanwadu ar ein dyfodol.
Gellwch ddod o hyd i raglen lawn yr 诺yl ar gyfer 18 Hydref yma.